Defnyddio data gweinyddol i greu effaith: Ymgysylltu â’r Senedd
14 Gorffennaf 2025
Mae Katy Huxley yn Gymrawd Ymchwil ar thema ymchwil Sgiliau a Chyflogadwyedd YDG Cymruac yn SPARK sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae Katy yn disgrifio’r broses o roi tystiolaeth i aelodau’r Senedd, neu Senedd Cymru, ynghyd â Rhys Davies, Arweinydd Academaidd yr un thema ymchwil ac yn Gyd-gyfarwyddwr WISERD.
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni roi tystiolaeth i bwyllgor yn y Senedd, ac nid oedd mor frawychus ag y gallai swnio. O fewn YDG Cymru, rydym wedi bod yn defnyddio data a gesglir yn rheolaidd gan sefydliadau i edrych ar lwybrau a dilyniant drwy addysg yng Nghymru.
Ar y dechrau (i mi, tua 2016), roedd gennym fynediad cyfyngedig at ddata addysg, a thros y blynyddoedd, trwy waith YDG Cymru (ac ADR UK yn ehangach), cymorth Banc Data SAIL, ac wrth gwrs ein harianwyr, rydym wedi galluogi dwyn ynghyd gofnodion addysg, data Gyrfa Cymru a Chyfrifiad y DU 2011.
Mae cysylltu data wedi ein galluogi i archwilio dyheadau disgyblion ysgol yng Nghyfnod Allweddol 4, y cysylltiadau rhwng cyrhaeddiad ac amrywiol fesurau o statws economaidd-gymdeithasol, effaith canllawiau gyrfaoedd a llwybrau o’r ysgol i Addysg Uwch. Mae dwyn y ffynonellau data gwahanol hyn ynghyd wedi galluogi dadansoddiad gwerthfawr.
Rydym hefyd wedi cael cymorth gan gydweithwyr yn y Senedd ac yn enwedig gan reolwr cyfnewid gwybodaeth Sarah Morse. Ar ôl dysgu mwy am ddylanwadu ar bolisi ac arfer, roeddwn i’n gyffrous i weld yr ymgynghoriad ‘Llwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16’ gan bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.
Fe wnaeth Rhys Davies a minnau ddrafftio ymateb i’r ymgynghoriad, ac wedi hynny cawsom ein gwahodd i roi tystiolaeth. Ac ar 13 Mawrth, er ychydig yn bryderus, cyflwynwyd ein canfyddiadau i bum aelod o’r Senedd mewn sesiwn friffio dechnegol breifat.
Roedd y pwyllgor yn groesawgar iawn, ac yn falch iawn o weld tystiolaeth o effaith gwaith Gyrfa Cymru, yn enwedig i’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig. Fe wnes i fwynhau rhannu ein gwaith, ac roedden nhw’n ddiolchgar am ein hymgysylltiad.
Hoffwn ddiolch i bawb a alluogodd ein hymchwil – drwy ddarparu data, a’r llwyfannau i gael mynediad iddo – ac yn enwedig i’r rhai sydd wedi ein hannog i wneud mwy o waith ymgysylltu. Os ydym ond yn rhannu ein hymchwil drwy lwybrau academaidd, rydym yn gwneud cam â ni ein hunain. Felly estynnwch allan ac estynnwch i fyny. Os oes gennych chi rywbeth pwysig i’w ddweud, gwnewch i’ch llais gael ei glywed, mae yna bobl sy’n fodlon gwrando.
- Defnyddio data gweinyddol i greu effaith: Ymgysylltu â’r Senedd
- Tri yw’r rhif hud: Seminar Traws-ganolfan ar Ymfudo a Chamfanteisio Byd-eang
- Caethwasiaeth Fodern, y Diwydiannau Creadigol a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd: Cydweithrediad Newydd
- SPARKing Change: Bod yn fwy agored?
- Datblygu Cymuned Ymarfer traws-sector: Patrwm ar gyfer rhannu gwybodaeth, sgiliau a chysylltiadau