Skip to main content

Amdanom ni

Mae Medicentre Caerdydd yn fenter lwyddiannus ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn cynnig lle a chefnogaeth ar gyfer busnesau newydd ym maes biodechnoleg a thechnoleg feddygol.

Mae Medicentre Caerdydd yn cynnig mannau gwaith hyblyg o safon sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion unigryw busnesau yn y sector technoleg feddygol, y sector biotechnoleg a’r gwyddorau bywyd.
Ers 1992, rydyn ni wedi bod yn rhoi cymorth i gwmnïau dyfu drwy ddarparu swyddfeydd y mae modd eu haddasu’n rhwydd, labordai a desgiau pwrpasol.
Cewch gymorth gan ein tîm gwybodus a brwd yn ein cyfleusterau modern, aml-bwrpas, gan gynnwys ein staff derbynfa arbenigol a chydweithwyr ar draws y Brifysgol a’i Gwasanaeth Ymchwil. Mae’r arbenigedd hwn yn cael ei gryfhau ymhellach gan fwrdd strategol arloesol.
 
Darganfyddwch fwy am Cardiff Medicentre yma.