O gydweithio i greu ar y cyd: Y manteision o feddwl ar draws y sector
24 Mehefin 2025
Sefydliad annibynnol, nid er elw yw WIG sydd â’r nod elusennol o gynyddu gweithio ar y cyd rhwng sectorau er lles pawb. Grŵp o arweinwyr blaengar o wahanol sectorau, gyda phob un yn gweithio tuag at ddiben cyffredin: gwneud y DU yn y lle gorau i fuddsoddi, ffynnu a llwyddo. Mae hyd at 250 o sefydliadau blaenllaw ledled y DU yn aelodau o’r WIG, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddar, cyflwynodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, sy’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrif Weithredwr ar WIG, ganfyddiadau arolwg WIG 2024 o’r sefyllfa o ran cydweithio ar draws sectorau mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd (CUIN) yn sbarc|spark. Yn y blog hwn, mae Neil yn ymhelaethu ar y wybodaeth, ynghyd â’r heriau, y posibiliadau, a’r manteision o weithio mewn sectorau gwahanol.
Mae ansicrwydd economaidd, technoleg, newid yn yr hinsawdd, prinder sgiliau, a’r angen am well cynhyrchiant ac arloesedd yn rhai o’r heriau mwyaf heddiw sydd yn gysylltiedig â’i gilydd. Does dim un sector yn meddu ar yr atebion i gyd, ond pan fydd arweinwyr o faes busnes, llywodraeth, addysg a chymdeithas sifil yn cydweithio, maen nhw’n dod o hyd i syniadau newydd a ffyrdd gwell o weithio sy’n arwain at ddatrysiadau mwy cynaliadwy.

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod lle nad yw un sector yn unig yn gallu datrys yr holl heriau rydyn ni yn eu hwynebu, fel ansicrwydd economaidd, newid hinsawdd, diogelwch, a tharfu ar systemau technolegol, ac nad ydyn nhw’n ffitio o fewn ffiniau penodol. Fydd yr atebion ddim chwaith. Nid yn unig yw cydweithio ar draws sectorau’n bwysig – mae’n hanfodol.
Mae cydweithio ar draws sector yn cyfuno gwybodaeth y sector gyhoeddus o bolisïau, ac hyblygrwydd busnes, ymddiriedaeth a chysylltiadau yn y gymuned elusennau a’r sector nid er elw. Rydyn ni wedi gweld hyn yn cael ei roi ar waith, mewn prifysgolion ac ym myd diwydiant yn hybu arloesedd, i bartneriaethau cyhoeddus a phreifat yn helpu i wella seilwaith a chynhwysiant digidol.
Nid cydweithio yn unig sydd dan sylw. Mae’n ymwneud â gweithio ar y cyd i greu ymddiriedaeth, diben cyffredin, a’r gallu i arwain er mwyn bod yn llwyddiannus yn y tymor hir.
Llwyfan i’r sawl sydd eisiau creu newid
Yn WIG, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd eu hangen i feithrin partneriaethau ar draws sectorau sy’n hybu twf economaidd mewn modd cynaliadwy. Rydyn ni’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n helpu arweinwyr i arwain yn well, p’un ai eu bod yn ymdrin ag heriau’r oes, neu’n cynllunio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni’n cynorthwyo ein haelodau mewn tair ffordd allweddol.

- Rydyn ni’n dod ag arweinwyr a’r sawl sy’n llunio penderfyniadau o wahanol sectorau at ei gilydd mewn cyfarfodydd, sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau i drafod strategaethau, adeiladu ymddiriedaeth, a rhannu syniadau ar heriau gweithredol ac heriau o ran polisi sy’n gyffredin.
- Rydyn ni’n helpu arweinwyr o wahanol sectorau i ddatblygu’r sgiliau a’r meddylfryd sydd eu hangen i weithio ar y cyd ac arwain mewn ffordd gwbl ddilys a hyderus drwy raglenni, mentora, secondiadau, a lleoliadau gwaith ar lefel bwrdd.
- Rydyn ni’n nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda drwy ymchwilio i’r sefydliadau’n fanwl, drwy astudiaethau achos, a thynnu sylw at arferion da o wahanol sectorau.
Un o’r adnoddau rydyn ni wedi’i ddatblygu’n ddiweddar i helpu arweinwyr ddelio â’r heriau o gydweithio traws-sector yw’r Collaboration Playbook . Cafodd y canllaw ymarferol hwn ei ddatblygu ar y cyd ag Ysgol Llywodraethiant Blavatnik ym Mhrifysgol Rhydychen. Ag yntau wedi’i seilio ar ymchwil academaidd ac enghreifftiau o broblemau yn y byd go iawn, mae’r canllaw yn cynnig gwybodaeth ymarferol ar sut i weithio ar y cyd yn llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol lle mae heriau’n codi wrth gydweithio: arweinyddiaeth, ymddiriedaeth, diwylliant, grym, a dysgu.
Mapio’r bylchau
Dangosodd ein harolwg Cyflwr Cydweithio Traws-Sector 2024, a gasglodd wybodaeth ynghyd gan dros 270 o arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat, nid er elw ac addysg, gonsensws cryf ar bwysigrwydd cydweithio ar gyfer twf economaidd y DU. Fodd bynnag, tynnodd sylw at fylchau sylweddol rhwng bwriad a gweithredu hefyd:
- Er bod 92% o arweinwyr o’r farn bod cydweithio traws-sector yn hanfodol ar gyfer twf economaidd, dim ond 14% sy’n teimlo’n hyderus i gydweithio’n effeithiol.
- Dim ond traean o’r ymatebwyr a nododd fod ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol i gydweithio â gwahanol sectorau.
- Dim ond 11% o’r ymatebwyr (gan gynnwys 16% o’r sectorau addysg ac nid er elw) oedd o’r farn fod cyflwr presennol cydweithio traws-sector yn “dda” neu’n “rhagorol”, sy’n dangos bod lle i wella wrth greu partneriaethau effeithiol.
- Tynnodd arweinwyr traws-sector sylw at fentrau sero net, cyflwyno seilwaith hirdymor, diwygio gwasanaethau cyhoeddus, a thwf economaidd rhanbarthol yn brif flaenoriaethau lle mae angen cydweithio.
Mae’r canfyddiadau hyn yn pwysleisio’r angen i arweinyddiaeth fwriadol a chefnogaeth sydd wedi’i thargedu bontio’r bwlch rhwng pwysigrwydd cydnabyddedig cydweithio a’r gallu presennol i arwain i’w weithredu’n effeithiol.
Er bod cytundeb cyffredinol ar ei werth, yn aml nid yw cydweithio traws-sector yn llwyddiannus yn ymarferol—mae bwlch amlwg rhwng bwriad a gweithredu.
Mae’r rhwystrau’n ymwneud yn llai â strwythur ac yn fwy ag ymddygiad: cymhellion nad ydyn nhw’n cyd-fynd, modelau atebolrwydd sy’n gwrthdaro, a diffyg ymddiriedaeth neu iaith gyffredin. Yn aml, mae gwrthdaro diwylliannol a chyfathrebu gwael yn rhwystro ymdrechion, yn enwedig pan nad yw sefydliadau’n buddsoddi mewn meithrin perthnasoedd o’r cychwyn cyntaf.
Mae goresgyn yr heriau hyn yn galw am symud o wneud penderfyniadau ar wahân i arweinyddiaeth ar y cyd. Mae angen dewrder, amser, a buddsoddi mewn perthnasoedd yn fwriadol i wneud hynny.
O Dŵr Ifori i Adeiladu Pontydd
Mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol mewn cydweithio traws-sector—nid yn unig yn bartneriaid ymchwil, ond yn gynullwyr arloesedd, talent a meddwl yn y tymor hir. Mae eu gallu i bontio blaenoriaethau cyhoeddus a gallu preifat yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â heriau cenedlaethol cymhleth.
Rydyn ni wedi gweld hyn drwy bartneriaethau fel y rhai rhwng Prifysgol Caerdydd ac Eriez®, lle mae arbenigedd academaidd ym maes prosesu signalau wedi cyflymu arloesedd masnachol yn uniongyrchol. Dyma gydweithio ag effaith economaidd go iawn.
Mae prifysgolion hefyd yn creu lle ar gyfer dysgu cymhwysol, lle caiff busnesau, y llywodraeth a sefydliadau addysgol brofi syniadau, rhannu risgiau, a datblygu’r sgiliau sy’n ysgogi twf cynaliadwy. Mae’r rôl honno’n bwysicach fyth o ystyried y bylchau o ran arweinyddiaeth a amlygwyd yn ein harolwg: er bod cydweithio’n cael ei ystyried yn hanfodol, mae dwy ran o dair o arweinwyr yn dal i deimlo nad oes ganddyn nhw’r hyn sydd ei hangen i’w wneud yn dda.
Gall prifysgolion helpu i gau’r bwlch hwnnw, nid yn unig drwy ddatblygu talent y dyfodol ond drwy gefnogi arweinwyr presennol. Mae ganddyn nhw rôl bwerus i’w chwarae wrth ddatblygu’r sgiliau, y sylfaen dystiolaeth, a’r ymddiriedaeth sydd eu hangen i ddatrys heriau cenedlaethol cymhleth.
Creu lleoedd, gwneud cysylltiadau
Mae sbarc|spark yn fwy nag adeilad yn unig; mae’n ddatganiad o fwriad. Rydych chi’n ei deimlo o’r eiliad rydych chi’n cerdded i mewn: mae’n teimlo fel lle sydd wedi’i gynllunio i chwalu seilos, ysgogi syniadau a chysylltu pobl na fydden nhw’n cwrdd â’i gilydd fel arall. Mae’n ymgorffori’r math o amgylchedd y mae angen mwy ohono arnon ni – lle mae arloesedd, ymchwil a’r diwydiant wedi’u hintegreiddio’n fwriadol, ac nid ar ôl ystyried. Roedd siarad yn nigwyddiad Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn y lleoliad hwnnw yn bleser llwyr, nid dim ond oherwydd fy mod yn gyn-fyfyriwr balch o Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd bod y lleoliad yn atgyfnerthu pa mor bwerus y gall lle fod ar gyfer cydweithio.
Mae lleoedd megis sbarc|spark a rhwydweithiau megis Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth roi syniadau am gydweithio ar waith. Maen nhw’n cael gwared â rhwystrau

ffisegol, diwylliannol a sefydliadol ac yn eu disodli â chyfleoedd i gysylltu, dysgu a datblygu ymddiriedaeth. Maen nhw’n helpu i oresgyn rhwystrau drwy greu’r amodau sydd eu hangen ar arweinwyr i feddwl y tu hwnt i’w sector, arbrofi gyda syniadau newydd, a meithrin cysylltiadau sy’n seiliedig ar ddiben cyffredin.
Pan fyddwn ni’n dod â phobl sydd â’r meddylfryd, yr amgylchedd a’r gefnogaeth gywir at ei gilydd, rydyn ni nid yn unig yn creu atebion ar y cyd, ond yn meithrin yr hyder a’r gallu i arwain newid hirdymor.
P’un a ydych chi’n lluniwr polisïau, yn arweinydd busnes, yn addysgwr, neu’n arloeswr cymdeithasol, mae gennych chi rôl wrth lywio’r dyfodol.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i helpu i greu dyfodol gwell – un sy’n well i fusnesau, y llywodraeth a chymdeithas – er lles y cyhoedd.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Lawlyfr Cydweithio WIG: gwefan.
Rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd: Y Rhwydwaith Arloesedd – Gweithio gyda ni – Prifysgol Caerdydd
Rhagor o gyfleoedd i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd: Gweithio gyda ni – Prifysgol Caerdydd